NancyHARVEY(Annie), Mai 25ain 2015 yn dawel yng Nghartref Nyrsio Glan Rhos, Brynsiencyn, o 74 Trem Eryri, Llanfairpwll, yn 86 mlwydd oed. Priod annwyl Thomas, mam, mam yng nghyfraith a ffrind addfwyn i Richard, Raymond, Ian, Sandra ac Olwen, nain hoffus i Jason, Lisa, Bethan Môn a Huw a hen nain i Alfie. Gwasanaeth cyhoeddus yn Amlosgfa Bangor dydd Mawrth Mehefin 2ail am 12.00 o'r gloch. Blodau'r teulu yn unig ond derbynnir rhoddion yn garedig tuag at Gymdeithas Alzheimer trwy law Gwenan Roberts o W. O. a M. Williams, Rose & Thistle, Llanedwen, LL61 6PX. Ffôn 01248 430312.
Keep me informed of updates